Matching Gifts/cy
Rhoddion Cyfatebol
Gallwch o bosib ddyblu neu dreblu eich rhodd i Sefydliad Wicifryngau drwy gynllun Rhoddion Cyfatebol. Mae nifer o gwmnïau yn cefnogi rhoi dyngarol ar ran eu gweithwyr drwy gynnig cynllun rhoi cyfatebol. Gallwch gynyddu gwerth eich rhodd, heb iddo gostio dim i chi, drwy fanteisio ar gynllun rhoi cyfatebol eich cyflogwr. A wnewch chi ofyn i'ch adran Adnoddau Dynol a fyddent yn fodlon rhoi i Sefydliad Wicifryngau yn gyfateb i'ch rhodd eich hunan, os gwelwch yn dda.
Sut mae'r cynllun hwn yn gweithio?
Er bod cynlluniau rhoi cyfatebol yn amrywio o gwmni i gwmni, fel arfer mae'r broses yn un syml iawn:
- Cadarnhewch bod gan eich cyflogwr gynllun rhoi cyfatebol a mynnwch y ffurflenni Rhoddion Cyfatebol gan eich cyflogwr
- Llanwch y ffurflen a'i hanfon at Sefydliad Wicifryngau, i'r cyfeiriad hwn:
- Wikimedia Foundation, Inc.
- P.O. Box 98204
- Washington, DC 20090-8204 USA
- neu trwy ebost at: matching@wikimedia.org
- Fe fydd Sefydliad Wicifryngau yn gwirio'ch rhodd ac yn anfon y ffurflen yn ôl at eich cyflogwr
- Bydd eich cyflogwr yn anfon rhodd gyfatebol i Sefydliad Wicifryngau
- Dylid anfon rhoddion cyfatebol at:
- Er gwybodaeth, 20-0049703 yw ein Cyfeirnod Treth yn yr Unol Daleithiau.
Yr Ymgyrch Ffederal Gyfun
Mae Sefydliad Wicifryngau ar restr y sefydliadau cenedlaethol/rhyngwladol annibynnol, sef y Rhestr Elusennau a gedwir gan Ymgyrch Ffedral Gyfun (CFC) yr Unol Daleithiau, yn 2011. 61478 yw ein cyfeirnod. 61478.
Sefydliadau sydd wedi cefnogi Sefydliad Wicifryngau drwy haelioni eu gweithwyr
Mae llawer o bobl ynghyd â'u cyflogwyr eisoes wedi rhoi ar y cyd i Sefydliad Wicifryngau. Rydym yn ddiolchgar iddynt am eu cefnogaeth a'u haelioni. Mae rhestr ohonynt yn dilyn, gyda dolenni at wybodaeth am eu cynllun rhoi cyfatebol:
This page has been moved to donate.wikimedia.org at: Matching Gifts Please visit the page at its new location. Thank you! |